Charlotte Grayland’s latest solo exhibition, Græg, explores familial memory through passed down craft and materials. Focusing on repeated iconography, inherited aesthetic characteristics and intergenerational dialogue, the show sits to question and acknowledge the masculine and feminine elements present in the self.

Presenting a series of abstracted geometric sculptures, Grayland plays on the elemental qualities of her mediums to portray the skeletal attributes of invisible inheritance. Works can be dismantled, folded, separated and reassembled, simulating the repeated processes of memory recollection.

The show considers the relationship and conflict between traditional masculine and feminine imagery and materials, transforming more masculine associated visual elements into more feminine associated materials and outcomes.

Centred around three quilted portraits made in collaboration with her Mother, Græg also highlights traditionally Welsh feminine craft (or ‘women’s work’), as a way to connect to her generational family labour, whilst linking the gallery space to the domestic; the home.

All work on display was made and developed during Grayland’s time on the BayArt Writing Room Residency.

  • Mae arddangosfa unigol ddiweddaraf Charlotte Grayland, Græg, yn archwilio atgofion teuluol drwy grefftau a deunyddiau wedi’u pasio lawr o un genhedlaeth i’r llall. Gan ganolbwyntio ar eiconograffi a ailadroddir, nodweddion esthetig a etifeddwyd, a deialog rhwng cenedlaethau, mae’r sioe yn bodoli i gwestiynu a chydnabod yr elfennau gwrywaidd a benywaidd sy’n bresennol yn yr hunan.

    Wrth gyflwyno cyfres o gerfluniau geometrig haniaethol, mae Grayland yn chwarae gyda phriodweddau elfennol ei chyfryngau er mwyn portreadu nodweddion sgerbydol treftadaeth anweledig. Gellir datgymalu, plygu, gwahanu ac ailadeiladu gweithiau, gan efelychu’r prosesau gaiff eu hailadrodd wrth adalw atgof.

    Mae’r sioe’n ystyried y berthynas a’r gwrthdaro rhwng delweddaeth a deunyddiau gwrywaidd a benywaidd traddodiadol, gan drawsnewid elfennau gweledol sy’n fwy cysylltiedig â gwrywdod yn wrthrychau a chanlyniadau sydd â chynodiadau mwy benywaidd.

    Yn ganolog i’r sioe fe welir tri portread wedi’u cwiltio, sydd wedi’u llunio mewn cydweithrediad â Mam yr artist. Mae Græg hefyd felly yn tynnu sylw at grefftau traddodiadol Cymreig benywaidd

    (neu ‘waith menywod’), fel modd o gysylltu â llafur teuluol y cenedlaethau ddaeth o’i blaen, wrth gysylltu gofod yr oriel gyda’r domestig; y cartref.

    Cafodd yr holl waith a arddangosir ei greu a’i ddatblygu yn ystod cyfnod Grayland ar Breswylfa Stafell Sgwennu Bay Art.

Cont…

BayArt Cardiff

Cardiff Bay / Bae Caerdydd

05/04/24 - 15/04/24

Hand bound Græg Artist book. A5. Limited Edition. 2024.